Trosolwg
Rhaglen sy’n datblygu sgiliau codio yn raddol yw Lightbot Jr. Mae’r weithgaredd hon yn canolbwyntio ar Lefel 1 Lightbot Jr (Sylfaeni). Dim ond 2 orchymyn sydd angen eu meistroli sef “Ymlaen” a “Goleua” (neu “Goleuo” – gan ddibynnu ar y ffurf sydd orau gennych). Mae’r cyfarwyddiadau ar-sgrîn yn eglur iawn. Does dim rhaid darllen y cyfarwyddiadau Saesneg chwaith; mae’r ‘help llaw’ yn arwain y defnyddiwr trwy’r cyflwyniad. Dydy’r cyfarwyddiadau ddim yn egluro pob dim, ceir digon i gyflwyno’r gêm ac i esbonio cyfarwyddiadau newydd wrth iddynt symud ymlaen, ond mae’n gadael cyfleoedd digonol i’r dysgwyr i weithio’n annibynnol, i ddatrys problemau ac i ymchilio i eithriadau yn y gorchmynion hefyd.
Adnoddau
Nod(au)
- I ddechrau deall pwysigrwydd cyfarwyddiadau cywir wrth codio.
- I ddechrau deall y manteision o wirio algorithmau cyn cwblhau rhaglen gyfrifiadurol.
Y Weithgaredd
Gan ddefnyddio bwrdd gwyn rhyngweithiol, cyflwynwch y gêm neu’r cam cyntaf gyda’r dosbarth cyfan. Tynnwch sylw’r plant at y cyfarwyddiadau ar-sgrîn – naill y cyfarwyddiadau ysgrifennedig (Saesneg), yr ‘help llaw’ (gweledol) neu’r ddau! Cyflwynir trydydd gorchymyn sef ‘Chwith’ ar gam 4. Os ydych yn teimlo bod gorchymyn arall yn ormod iddynt, canolbwyntiwch ar gamau 1-3 yn unig.
Siwrnai eu bod new wedi cael digon (ond nid gormod!) o arweiniad, gadewch iddynt fynd ati i weithio mewn parau. Tra bod un o bob pâr yn ysgrifennu’r rhaglen, gofynnwch i’r llall i gadw cofnod o’r nifer o droeon mae’n cymryd i’w b/phartner i gwblhau’r rhaglen yn gywir. Esboniwch iddynt i beidio a chyfri’r troeon y maent yn profi’r rhaglen sydd ar ei hanner, dim ond y troeon maent yn profi’r rhaglen orffenedig.
(Yn ddelfrydol, bydd y mwyafrif yn cwblhau’r rhaglen gyfan yn gywir y tro cyntaf am eu bod wedi profi’r cyfarwyddiadau wrth fynd yn eu blaen).
I gloi
Gofynnwch iddynt am grynhoi yr hyn maent wedi eu dysgu. Dyma restr o gwestiynau (ac atebion posib!) gellir eu defnyddio i’ch helpu:
Pam ei fod yn syniad da i brofi’r rhaglen ar ôl ychwanegu gorchymyn newydd? Fel ein bod yn gallu ei gywiro os yw’n anghywir.
Pam ei fod yn anoddach i gywiro gwallau ar ôl cwblhau’r rhaglen i gyd? Am fod rhaid dileu pob gorchymyn sy’n dilyn yr un wallus er mwyn cywiro’r rhaglen.
Beth oedd yn anodd? I gofio taw cyfri’r nifer o gamau ac nid y nifer o sgwariau neu flociau sy’n bwysig. Mae rhaid rhoi’r gorchymyn “goleuo’ er mwyn goleuo sgwâr neu floc, dydy’r sgwâr neu’r bloc ddim yn goleuo’n awtomatig pan mae Lightbot yn camu arno.