Ysgrifennu Rhaglenni – Cyfarwyddiadau Lluosog (7 oed+)

recite-14zfi1bTrosolwg

Os nad yw eich disgyblion yn gyfawrydd â LightbotJr cyflwynwch y rhaglen iddynt yn gyntaf. Os hoffech chi syniad o sut i wneud hyn, ewch i’r wers sylafenol. Mae’n bosib i grynhoi cynnwys y wers sylfaenol i gyflwyniad y wers hon gyda plant yn hŷn. Mae’r weithgaredd yma yn ffocysu ar Lefel 2 LightbotJr – sef defnyddio 5 gorchymyn er mwyn ysgrifennu rhaglen gyfrifiadurol syml.

 

 

 

Adnoddau

www.lightbot.com
Bwrdd gwyn rhyngweithiol
Cyfrifiadur, cliniadur neu iPad 1:2 disgybl

 

Nod(au)

  • I ddefnyddio cyfarwyddiadau lluosog yn gywir er mwyn ysgrifennu raglan gyfrifiadurol syml.
  • I gadarnhau’r arfer o wirio’u gwaith trwy gydol y dasg.

 

Y Weithgaredd

Ewch i Lefel 2 Lightbot Jr. Gyda’r dosbarth cyfan, golygwch swyddogaeth y 5 gorchymyn ar waelod y sgrîn. Dewiswch un plentyn i ddod at y bwrdd gwyn rhyngweithiol i cwbhau’r rhaglen gyntaf. Atgofiwch y plentyn yma i wasgu’r botwm gwyrdd (“Run”) i dreialu’r rhaglen os oes angen e.e. os ydyw ef/hi yn ansicr os oes rhaid ‘dweud’ wrth Lightbot i symud ymlaen a neidio neu i neidio yn unig er mwyn esgyn un bloc.

Dewiswch ddisgyblion eraill i ddod i’r bwrdd gwyn rhyngweithiol i gyflawni camau 2, 3 a 4 yn eu tro. Ar gam 5, fe fydd ganddynt y cyfle i ddewis rhwng dau gyfeiriad wrth iddynt fynd ati i lunio’u rhaglen. Trafodwch gyda nhw os ydynt yn meddwl bod y cyfeiriad yn bwysig re mwyn gallu cyflawni’r dasg? Gofynnwch i un ohonynt i ddod i orchymyn Lightbot i neidio 2 floc. Trafodwch beth sy’n digwydd.

Erbyn hyn, mae’n bosib y bydd ‘troi i’r dde’ a ‘troi i’r chwith’ yn eu drysu nhw (a chi!). Unwaith eto, mae’n fuddiol i’w hatgofio i dreialu’r rhaglen drwy wasgu’r botwm gwyrdd (“Run”) ar ôl pob gorchymyn. Mae hyn yn osgoi’r broblem o ddileu rhannau sylweddol o’r rhaglen er mwyn cywiro gwall ar ôl cwblhau’r rhaglen i gyd!

Mewn parau, fe gawn nhw fynd i ymarfer ac arbrofi drwy gwblhau gweddill Lefel 2. Wrth iddynt ddod o hyd i ffeithiau newydd e.e. nid yw Lightbot yn gallu teithio yn groesliniol na neidio i lawr mwy nag un bloc. Gofynnwch iddynt rannu’u darganfyddiadau gyda gweddill y dosbarth. Cofiwch i’w hatgofio i dreialu eu rhaglenni (gwasgu’r botwm “Run”) wrth iddynt fynd yn eu blaen.

 

I gloi
Ar ôl iddynt gwbhlau Lefel 2 yn llwyddiannus, crynhowch ar yr hyn maent wedi’u dysgu yn ystod y weithgaredd. Cyfeiriwch at y rhain fel ‘Rheolau Lightbot” neu “Meini Prawf Llwyddiant”. Dyma rai enghreifftiol:

  • Rhaid rhoi’r gorchmynion cywir yn y drefn gywir.
  • Mae’n syniad da iawn i dreialu’r rhaglen ar ôl ychwanegu gorchymyn newydd.
  • Er mwyn gorchymyn Lightbot i symud ymalen ac i fyny un bloc, dim ond un gorchymyn sydd ei angen, sef “Neidio”.
  • Nid yw Lightbot yn gallu neidio i fyny mwy nag un bloc.
  • Mae Lightbot yn gallu neidio i lawr sawl bloc.
  • Nid yw Lightbot yn gallu symud yn groesliniol.

Leave a Reply

Your email address will not be published. Required fields are marked *