CS Cyflwyno Algorithmau 1: ‘OS’ ac ‘YNA’

Nod

  • I ddechrau deall beth yw algorithm a sut i ddefnyddio algorithmau wrth godio.

    Os glaw, yna esgidiau glaw.

    Os glaw, yna esgidiau glaw.

 

Trosolwg

Codio yw’r broses o ‘ddweud’ wrth gyfridiaur neu ddyfais ddigidol i gyflawni tasg/tasgau arbennig. Mae’r brsoes yn ddibynnol ar ddefnyddio set o symbolau sy’n gyfarwydd i’r cyfrifiadur er mwyn cynrychioli’r cyfarwyddiadau yn eich algorithm.

Gellir mynegi neu godio algorithmau mewn ffyrdd amrywiol megis ar ffurf lluniau, iaith naturiol, siartiau llif neu ieithoedd rhaglennu amrywiol. Mae’n bwysig iawn i gofio bod côd yn gallu cael ei fynegi mewn ffyrdd gwahanol.

Mae pob plentyn yn byw mewn byd sy’n gyfoethog o ran algorithmau. Po ifancaf yw’r plentyn po fwyaf y mae algorithmau yn bresenol yn ei fywyd pob dydd.

“OS wyt ti’n bwyta’r llysiau i gyd, YNA fe gei di bwdin”

“OS wyt ti’n gwisgo dy byjamas AC yn brwsio dy ddannedd, YNA fe gei di stori”

“OS yw’r tywydd yn braf, YNA fe awn ni i’r parc”

ac yn y blaen.

Mae esiamplau tebyg i’r rhain yn effeithiol iawn ar gyfer cyflwyno syniadau allweddol sy’n berthnasol i godio.

Geithgareddau Cychwynol

Crewch gardiau fflach i gynrychioli digwyddiadau cyfresol o fywyd plentyn. Defnyddion ni ‘deffro’, ‘gwisgo’, bwyta brecwast’, ‘brwsio dannedd’ a ‘mynd i’r ysgol’. Gyda phlant ifanc iawn, rhowch y cardiau yn y drefn gywir a gofynnwch iddynt esbonio’r ‘stori’.

(Mae modd ehangu’r syniad yma gan ddefnyddio straeon syml megis Y Tri Mochyn Bach)

Rhowch un garden yn ‘y lle anghywir’. Ydyn nhw yn gallu gweld y ‘byg’ a chywiro’r drefn? Shifflwch y cardiau cyn gofyn iddynt i’w trefnu’n gywir eto.

Crewch setiau eraill o gardiau thematig e.e. Y Tywydd. Bydd cardiau tywydd glwyb yn cynnwys lluniau o gymylau glaw, esgidiau glaw, ymbarél, cot law, pyllau dŵr act ati. Trafodwch y cardiau gan ddefnyddio cystrawennau megis “OS mae’n bwrw glaw, YNA bydd angen ymbarél”. Rhowch y cardiau ar y bwrdd yn y drefn gywir wrth i chi ddweud y frawddeg.

Gadewch i’r plant arbrofi gyda’r cardiau. Gofynnwch iddynt greu cystrawennau eu hunain trwy drefnu’r cardiau (o’r chwith i’r dde) tra’n defnyddio’r gystrawen “OS…YNA…”. Credwch neu beidio, dyma’r cam cyntaf sydd angen ar rywun i ddeall termau megis ‘amodau dibynnol’, ‘perthnasau achosol’ ac ‘amodoldeb’ yn hwyrach yn ei (g)yrfa. Mae’r rhain oll yn gamau sylfaenol yn y broses o ddeall rhaglennu!

Prif Weithgaredd

Nawr mae’n amser cyflwyno’r symbolau cyntaf er mwyn creu côd syml. Fe fydd angen cardiau eraill arnoch gyda saeth ar bob un. Esboniwch i’r dysgwyr bod saeth yn golygu ‘Os’ ar ddechrau’r frawddeg a bod saeth arall yn y frawddeg yn golygu ‘yna’. Lluniwch y cystrawennau eto gan ddefnyddio’r saethau i olygu ‘os’ ac ‘yna’. Pwysleisiwch ystyr y saethau wrth roi’r cardiau i lawr a gofynnwch i’r dysgwyr ddarllen y gystrawen i chi ar y diwedd.

Dyma esiamplau o gystrawenau côd a grewyd gan ddysgwyr 3 a 4 oed:

 

Os haul, yna trwosus byr.

Os haul, yna trwosus byr.

 

 

 

 

 

 

 

Os haul, yna sychu dillad

Os haul, yna sychu dillad

 

 

 

 

 

Os glaw, yna ymbarél.

Os glaw, yna ymbarél.

 

 

 

 

 

 

I ddechrau, rhowch yr amod dibynnol (‘haul’ neu ‘glaw’) iddynt wedi’i ddilyn gydag un garden saeth. Gofynnwch iddynt orffen y gystrawen gyda saeth a charden fflach arall o’r pentwr perthnasol.

Ar ôl sawl tro arall, cymysgwch y cardiau ‘haul’ a ‘glaw’ gyda’i gilydd er mwyn gwneud y dasg ychydig yn anoddach. Ar ôl iddynt feistroli’r cam yma, gofynnwch iddynt greu cystrawennau côd eu hunain.

Mae’n bosib y bydd dysgwyr yn creu cystrawenau gwallus megis “OS ydyn ni’n gwisgo cot, YNA fe fydd yn bwrw glaw”! Trafodwch yr esiamplau yma gyda nhw. Dros amser maen nhw’n dod i ddeall camsyniadau ac yn gallu eu cywiro yn gyflym.

Nodiadau

  • Gellir gwneud y gweithgareddau uchod gyda phlant sydd heb ddechrau darllen eto.
  • Os oes angen, mae’n bosib i addasu’r gweithgareddau yma ar gyfer plant yn hŷn e.e. creu cardiau mwy heriol ar sail llyfrau, chwedlau neu reolau ysgol.
  • Beth am atgyfnerthu’r cysyniadau yn ystod y dydd e.e. OS mae’r gloch yn canu, YNA fe gewch chi fynd allan i chwarae”?

One Comment on “CS Cyflwyno Algorithmau 1: ‘OS’ ac ‘YNA’”

Leave a Reply

Your email address will not be published. Required fields are marked *