Dyma’r ail weithgaredd yn y gyfres Cyflwyno Algorithmau. Os ydych wedi dod o hyd i’r weithgaredd yma ar hap, buasai’n syniad i chi ddarllen y Weithgaredd Gyntaf hefyd.
Geirfa
cystrawen = syntax
tild = tilde (~)
Nod
- I ddatblygu dealltwriaeth o ‘beth yw algorithm’ a sut i ddefnyddio algorithmau mwyfwy cymhleth wrth godio.
Trosolwg
Mae’r weithgaredd hon yn cyfwlyno ‘dim/ddim’ megis yn y gystrawen “os hwn, yna ddim hwn”. Rydyn ni wedi penderfynu defnyddio’r symbol ’tild’ sef ~ ar gyfer ‘dim’. Mae gwell gan rai i ddefnyddio’r symbol rhesymegol sy’n debyg i’r acen grom (⌃) ond mae’n anodd iawn i’w ffeindio ar y rhan fwyaf o allweddellau ac, yn y pen draw, bydd angen i ddysgwyr symud oddi wrth godio gyda lluniau i godio digidol. Felly, teimlwn fod y tild yn fwy addas ac yn debygol o beri llai o broblemau yn y pen draw. Hoffwn bwysleisio nid gweithgaredd ramadeg yw hon! Os ydych yn teimlo bod yr iaith neu’r ramadeg yn anaddas, gallwch naill newid yr elfennau yma. Mae’n bwysig eich bod chi’n mabwysiadu ffurf sy’n gyson ac yn cael ei defnyddio drwy’r ysgol.
Y Weithgaredd
Dangoswch gystrawen sy’n cynnwys ‘dim’ i’r dysgwyr. D’wedwch y gystrawen ar lafar wrth i chi roi’r cardiau i lawr e.e. “Os haul, yna DDIM ymbarél”.
Annogwch y dysgwyr i newid y cardiau fflach â lluniau arnynt a thrafodwch os ydynt yn synhwyrol e.e. Os glaw, yna DDIM cot law”. Arbrofwch ymhellach gyda chystrawennau ‘cywir’ ac ‘anghywir’. Gallwch greu cwis gan ofyn i’r plant i weiddi (nid yn rhy uchel!) os yw’r gystrawen yn ‘gywir’ neu’n ‘anghywir’.
Nesaf, symudwch y tild i ddechrau’r frawddeg e.e. “DIM glaw, yna…”.
Yn aml, mae’r dysgwyr yn arbrofi gyda’r gystrawen e.e. “DIM glaw, yna DDIM esgidiau glaw”
Dyma esiamplau a grewyd gan blant 4 oed:
I Gloi
Gadewch iddynt greu cystrawennau eu hunain. Gofynnwch i wirfoddolwyr i gyflwyno un neu ddwy i’r grŵp neu’r dosbarth.