CA2 Python Gwers 2: Sut Mae Cyfrifiaduron yn Meddwl?

Trosolwg:

python-800pxYn y weithgaredd hon, bydd dysgwyr yn ystyried y ffordd y mae angen i gyfrifiaduron a robotiaid ddilyn cyfres o orchmynion er mwyn cyflawni tasg. Mae rhan sylweddol o’r weithgaredd wedi’i chysegru i gael dysgwyr i ddefnyddio Raspberry Pi am y tro cyntaf, mewngofnodi, cael mynediad at IDLE3, a theipio cyfres fer o gyfarwyddiadau mewn iaith gyfrifiadurol (Python) er mwyn creu siâp. Erbyn diwedd y weithgaredd, byddwch wedi cyflwyno dysgwyr i rannau corfforol sylfaenol Raspberry Pi, arddangos y gall y Raspberry Pi ymddwyn fel cyfrifiadur traddodiadol a byddant wedi dechrau ar eu rhaglen Python gyntaf.

 

Nodau:

  • i ddeall fod cyfrifiaduron yn dilyn cyfres o gyfarwyddiadau i achosi i rywbeth ddigwydd.
  • yn gallu gosod y Raspberry Pi, a rhoi cyfres o gyfarwyddiadau mewn iaith Python i greu siâp.

 

Gweithgaredd:

robot

“Dwi’n gallu siarad Python a Chymraeg!”

Cyflwyniad – Yn gyntaf, dewiswch dri neu bedwar dysgwr i fod yn robotiaid, ac yna rhannwch y myfyrwyr sy’n weddill yn dri neu bedwar tîm. Mae pob tîm yn cystadlu mewn ras i weld pwy all dywys ‘robot’ o gwmpas y dosbarth, neu ‘ddrysfa’ (maze). Gallai hyn fod yn dasg awyr agored. Eglurwch i’r ‘robotiaid’ fod yn rhaid iddyn nhw esgus bod yn dwp, a dim ond dilyn y cyfarwyddiadau maen nhw’n derbyn gan eraill.

Yn ystod y ras, gwnewch yn sicr fod y myfyrwyr yn defnyddio cyfarwyddiadau fel “camu ymlaen 10 cam” neu “troi 90 gradd i’r dde”.

Unwaith fod y ras wedi’i hennill, trafodwch unrhyw broblemau ddaeth y timau ar eu traws wrth geisio cael y robot i ddilyn eu cyfarwyddiadau. Ceisiwch dynnu sylw’r myfyrwyr at y ffaith na allai’r robot wneud ei benderfyniadau ei hun, a’u bod wedi gorfod bod yn benodol iawn ynglŷn â throeon a chamau oherwydd hynny.

Eglurwch fod cyfrifiadur yn gweithio drwy gyflawni datganiadau un ar ôl y llall mewn dilyniant penodol. Gelwir dilyniant arbennig o ddatganiadau yn rhaglen. Mae pob rhaglen yn gweithredu gyda llif reolaeth arbennig ; mae hyn yn disgrifio pa ddatganiad y byddem yn ei gyflawni, a beth fydd y datganiad nesaf.

 

 

Y Brif Wers – Arddangoswch Raspberry Pi wedi’i gysylltu yn barod, a’r rhaglen robot sgwrsio olaf yn rhedeg. Dangoswch famfwrdd Raspberry Pi a gofynnwch i’r dysgwyr beth maen nhw’n meddwl ydyw. Eglurwch mai cyfrifiadur ydyw mewn gwirionedd ac ein bod ni am wneud rhywbeth arbennig iawn gydag ef yn y gwersi sydd i ddod. Yn lle rhedeg apiau a gemau mae pobl eraill wedi eu creu ar ein cyfer, byddem yn dysgu sut i ysgrifennu meddalwedd er mwyn creu robot sy’n sgwrsio â ni.

Dechreuwch gyda holl gydrannau’r Raspberry Pi ar y bwrdd: bysellfwrdd, llygoden, seinydd, cerdyn cof, cyflenwad bŵer, monitor, cebl monitor, a’r Raspberry Pi ei hun. Gofynnwch i’r dosbarth enwi a disgrifio pob cydran wrth i chi ei gysylltu at y Raspberry Pi o flaen y dosbarth. I orffen, plygiwch y pŵer i mewn a gwyliwch y cyfrifiadur yn cychwyn. Arddangosiad amgen byddai i adael allan y cerdyn cof a cheisio cychwyn y Pi, fyddai yn methu. Gallech chi wedyn ddisgrifio’r cerdyn cof fel rhywbeth sy’n cynnwys cyfarwyddiadau sy’n dweud wrth y Pi sut i ddechrau. Dylai fod y Raspberry Pis i gyd wedi cychwyn ac ar y sgrin mewngofnodi yn disgwyl am ddilysiad.

Gofynnwch i’r dysgwyr osod eu hoffer Raspberry Pi, ei droi ymlaen a mewngofnodi yn defnyddio eu henw defnyddiwr pi a’r cyfrinair raspberry.

*Nodwch na fydd y dysgwyr yn gallu gweld unrhyw destun wrth deipio’r cyfrinair, ond sicrhewch iddyn nhw ei fod yn gweithio. Pam bod hyn yn digwydd? Cliw: beth fyddai yn digwydd petai rywun yn edrych dros eu hysgwyddau? *

Nesaf, dylai’r myfyrwyr lwytho’r amgylchedd graffigol drwy deipio ‘startx’. Unwaith mae’r bwrdd gwaith wedi llwytho, dangoswch i’r dysgwyr sut mae agor IDLE3 unai drwy glicio dwywaith ar yr eicon bwrdd gwaith, neud drwy glicio ar y prif ddewislen ac yna rhaglennu a dewis IDLE3.

Nodwch fod y gyfres yma o wersi yn defnyddio Python 3. Os yw’r myfyrwyr yn rhedeg IDLE falle na fydd eu cod yn rhedeg.

Eglurwch iddynt fod IDLE3 yn rhaglen neu yn amgylchedd sydd yn eich caniatáu i ysgrifennu rhaglen syml gan ddefnyddio’r iaith raglennu Python. Mae’n caniatáu i chi ysgrifennu, golygu a rhedeg cod.

Dangoswch iddynt sut i greu siâp drwy deipio dilyniant o gyfeiriadau, linell wrth linell. Gwelwch y Cyfarwyddiadau i Fyfyrwyr ar gyfer y camau sydd eu hangen er mwyn cyflawni’r dasg hon.

Gofynnwch iddynt ddiffodd eu Raspberry Pis drwy glicio ar yr eicon Cau i Lawr ar y bwrdd gwaith.

 

I Gloi – Ysgrifennwch y rhestr o eiriau canlynol ar y bwrdd gwyn:

Cyfarwyddiadau
Dilyniant
Raspberry Pi
Python
IDLE3
Dewiswch ddysgwyr ar hap o’r dosbarth. Mae’n rhaid iddyn nhw ddewis un o’r geiriau ar y bwrdd gwyn, sefyll ar eu traed a phwyntio at rywun arall yn y dosbarth sy’n gorfod egluro ystyr y gair. Bydd y person yna wedyn yn dewis person arall ac yn rhoi gair iddyn nhw egluro.

 

Gweithgaredd Estynedig

  • Gallai’r dysgwyr ysgrifennu dilyniant o gyfarwyddiadau ar gyfer tasg, fel gwisgo ar gyfer yr ysgol neu eu symudiadau dawns gorau.

 

Mewn cydweithrediad gyda:

Screen Shot 2016-04-21 at 14.33.34

 

 

Leave a Reply

Your email address will not be published. Required fields are marked *