CA2 Python’ Gwers 1: Y Camau Cyntaf.

C_Hello_World_ProgramTrosolwg:

Mae cyfrifiaduron yn defnyddio ieithoedd gwahanol i gyfathrebu, yn union fel pobl. Rydym yn galw’r ieithoedd yma yn ieithoedd rhaglennu ac y maent yn ein galluogi i siarad gyda chyfrifiaduron. Dyma’r weithgaredd gyntaf mewn cyfres o bedair ar sut i ddefnyddio un o’r ieithoedd mwyaf poblogaidd, sef Python.

 

 

monty-python-graffCafodd rai ieithoedd cyfrifiadurol eu henwi ar ôl y bobl a’u creodd, fel Pascal ac Ada. Mae eraill yn acronymau megis BASIC a FORTRAN. Cafodd Python ei hewni ar ôl y rhaglen Monty Python’s Flying Circus!

 

 

 

Mae Python yn iaith addas iawn i’w dysgu fel iaith gyfrifiadurol gyntaf am ei bod yn defnyddio cod go iawn (yn anhebyg i Scratch sy’n defnyddio ‘blociau’), nid yw’n denfyddio symbolau cymhleth megis {} neu $ ac mae’n gymharol hawdd i’w dysgu.

Fe fydd rhaid i chi osod Python ar eich peiriant. Os mae each cyfrifiadur yn defnyddio MAC OS X cliciwch yma, os ydych yn defnyddio Windows cliciwch yma. (mae hwn ar gyfer Windows 8, os oes gennych fersiwn yn hŷn na hyn, chwiliwch am diwtorial addas ar YouTube)

Mae dau fersiwn o Python: Python 2 a Python 3. Mae gan Mac OSX Python 2 wedi’i gosod ar y cyfrifiadur yn baord ond rydym yn awgrymu eich bod yn lawrlwytho Python 3 os and yw ar eich cyfrifiadur yn barod. Peidiwch â dileu Python 2 wrth lawrlwytho Python 3! Mae angen y ddwy rhaglen er mwyn i Python 3 weithio!

Nodau:

  • i ddeall cystrawen iaith Python.
  • i ddefnyddio Python i greu rhaglen gyfrifiadurol syml.

 

Gweithgaredd:

Gan ddefnyddio’r wybodaeth yn y trosolwg ir wers hon, esboniwch i’r dysgwyr beth yw Python. Ystyriwch oed a gallu’r digyblion wrth lunio esboniad addas. Yna, gofynnwch iddynt  glicio ar eicon Python 3 ar eich cyfrifiadur h.y. ‘IDLE’. Os yw “WARNING” mewn print glas yn ymddangos ar y sgrîn, d’wedwch wrthynt am ei hanwybyddu hi – nid oes unrhywbeth erchyll mynd i ddigwydd!

Esboniwch iddynt eu bod nhw mynd i greu rhaglen syml gan ddefnyddio iaith Python. Fe allwch chi ddangos iddynt ar fwrdd gwyn rhyngweithiol neu esbonio iddynt ar lafar gan ysgrifennu’r cyfarwyddiadau ar fwrdd gwyn/du.

Teipwich y canlynol ar y sgrîn:

print(“Shwmae, Bawb!”)

Yna, gwasgwch ‘return’.

 

Fe ddylai’r rhaglen eich cyfarch gyda…

Shwmae, Bawb!Screen Shot 2016-04-25 at 13.38.02

 

Rydych wedi ysgrifennu eich rhaglen gyfrifiadurol gyntaf! Gofynnwch i’r dysgwyr arbrofi gyda chyfarchion eraill e.e.

 

 

Screen Shot 2016-04-25 at 13.39.02

 

 

print(‘Shwmae, Aled!”)

print(‘Shwmae, Mr Jones!”)

Os oes camsyniad yn y cod, mae neges goch yn ymddangos yn dweud bod ‘syntax error’. Os yw hyn yn digwydd, nid ydych yn gallu dielu neu gywiro’r gwall. D’wedwch wrth y dyswgyr am drio eto ar linell newydd o dan. Fe fydd y cyfrifiadur yn anwybyddu unrhyw gyfarwyddiadau gwallus!

Ar ôl i bob disgybl lwyddo i greu o leiaf un, trafodwch y gwahaniaethau rhwng y mewnbwn (cod mewn print proffer a gwyrdd) a’r allbwn (mewn print glass). Er enghraifft, mae cromfachau a dyfynodau yn y mewnbwn ond mae’r allbwn ond yn cynnwys yr hen sydd tu fewn y cromfachau a’r dyfynodau. Mae cardiau fflach neu arddangosfa wal yn gallu bod o fudd wrth adolygu’r rhain.

Gweithgareddau Estynedig:

  • Chwiliwch am yr hyn sy’n debyg ac yn wahanol rhwng atalnodi mewn ieithoedd dynol (Cymraeg, Saesneg) a ieithoedd cyfrifiadurol (Python).
  • Mewn parau, gadewch i ddygwyr lunio deialog fer gan ddenyddio Python.

 

Leave a Reply

Your email address will not be published. Required fields are marked *