Mae’r weithgaredd yma yn cyflwyno’r cysyniad o ‘Technoleg Reoli’ drwy edrych ar esiamplau cyffredin o beiriannau a sut y gellir eu rheoli. Ar y level yma, anwybyddwn yr elfen o ‘brosesu’ sy’n digwydd rhwng ‘mewnbwn’ ac ‘allbwn’ gan ganolbwyntio ar adnabod MEWNBWN ac ALLBWN yn unig. Edrychwn ar ‘brosesu’ a ‘dolenni’ (loops) mewn gweithgareddau dilynol.
Nodau:
- i ddeall y cysyniad o reoli yng nghyd-destun peiriannau pob dydd
- i ddisgrifio esiamplau cyffredin o dechnoleg reoli gan esbonio’n syml sut mae’r rhain yn gweithio
- i ddefnyddio geirfa sylfaenol megis MEWNBWN ac ALLBWN yn gywir
Gweithgaredd:
Dangoswch luniau neu fideos o dechnoleg reoli ar waith yn byd o’n cwmpas. Dwi’n dueddol o ddefnyddio setiau o gardiau wedi’u lameneiddio neu gyflwyniad PowerPoint e.e.
- peiriant golchi
- goleuadau traffig
- oergell/rhewgell
- cyfrifiadur
- lifft
- car
- teclyn troi sianeli teledydd
- tegell trydanol
- microdon
- peiriant losin neu ddiodydd ysgafn
Gofynnwch iddynt enwi’r gwrthrychau ar y cardiau. Trafodwch SUT rydym yn eu rheoli e.e. gwasgu botwm, troi swits, tynnu lifer ayyb.
Bydd angen setiau o gardiau eraill gyda lluniau o’r rheolwyr MEWNBWN arnynt h.y. y botwm, swits neu’r lifer sy’n ‘dweud’ wrth y beiriant am weithio. Gofynnwch iddynt (mewn grwpiau) i gyfateb y gwrthrych gyda’r rheolwyr mewnbwn cywir.
Esboniwch bod y gwrthrychau yma yn dibynnu ar berson i ‘ddweud’ wrthynt beth i’w wneud. Trafodwch beth yw ‘gwaith’ y gwrthrychau e.e. tostwr = tostio bara. Sawl ‘swydd’ sydd gan bob un?
Y pethau pwysicaf i’w pwysleisio yw:
- Bod angen dweud wrth beiriant i ‘wneud ei waith’ – hwn yw’r MEWNBWN
- Pan mae’r peiriant wedi gwneud ei waith – gawn ALLBWN
(os yw’r disgyblion eisoes wedi dysgu am drydan, gallwch drafod bod angen cyflenwad pŵer ar y peiriant cyn iddo weithio. Gallwch drafod y mathau o gyflenwadau pŵer megis plwg a soced/batri).
Dangoswch degell a thostwr yn ‘gweithio’ yn y dosbarth.
Trafodwch sut ydym yn rheoli yr ystent y mae’r bara yn cael ei dostio (rhaid gochel rhag ddeffro’r larymau tân!)
Tynnwch eu sylw at y golau coch wrth i’r tegell ferwi a’r hyn sy’n digwydd i’r swits pan mae’r dŵr wedi berwi.
Mewn parau, gofynnwch iddynt gynhyrchu set o gardiau gweledol sy’n rhoi cyfarwyddiadau ar sut i ddefnyddio peiriant neu declyn e.e. er mwyn gwneud tost, paned o de ayyb.
Gweithgareddau estynedig
- Crewch arddangosfa yn y dosbarth gan ddefnyddio MEWNBWN ac ALLBWN yn deitlau.
- Crewch gylched syml gan ddefnyddio bwlb, swits a batri. Gofynnwch iddynt greu darlun/deiagram o’r cylched gan labelu’r MEWNBWN a’r ALLBWN yn gywir ar y deiagram.
Mae’r weithgaredd Synwyryddion yn addas ar gyfer gweithgaredd ddilynol.