CA2 Beth yw ystyr meddwl yn cyfrifiadurol?


Mae meddwl yn cyfrifiadurol yn golygu edrych ar problem mewn ffordd y gall cyfrifiaduron yn gallu helpu ei datrys. Mae hi’n cael ei defnyddio yn fwy ac yn fwy fel term ymbarel i cynrychioli rhesymu, algorithmau, ddadelfennu, darganfd ac defnyddio patrymau, a gwerthusiad.

Ffordd arall o edrych ar hyn yw meddwl am yr gwaith i gyd mae rhaid gwneud cyn defnyddio cyfrifiadur. Felly yn gyntaf rydym yn meddwl am y camau sydd angen i datrys problem (dyna yw meddwl yn cyfrifiadurol), wedyn, rydyn angen sgiliau technegol i gael y cyfrifiadur i weithio ar y broblem.

E.e os yr ydych yn ameneiddio, mae rhaid dechrau gyda cynllunio’r stori a sut y byddech yn gwneud e cyn y gallwch defnyddio caledwedd a meddalwedd fel Scratch yw defnyddio fe.

Fe all hyn fod yn topic o sgwrs gyda plant hin os mae nhw yn gyfarwydd gyda’r termanoleg. Fe allwch chi rhoi’r dosbarth neu’r grwpiau o blant rhywbeth i cynllunio- fe all hun fod yn rhywbeth sydd ddim angen cyfrifiadur, e.e fe all un grwp trefnu mabolgampau, fe all grwp arall trefnu digwyddiad diwedd tymor i rheini, fe all grwp arall trefnu trip ysgol. Yn gyntaf fydd rhaid torri’r tasg i lawr mewn i rhannau- dyna ddadelfennu. Wedyn cyhoeddi’r cynllun fel poster a gad i pob grwp siarad trwy’r trefniadau.

A gallen nhw siarad pa trefn mae nhw wedi penderfynnu mae’r pethau mynd i digwydd mewn? Efallai does dim ateb cywir neu anghywir. E.e gall y grwp sydd yn trefnu’r trip ysgol dechrau gyda’r prys. Gwneud yn siwr ble bynnag mae nwh yn mynd ddim yn costi mwy na swm penodol y person. Fydd grwp arall efallai yn penderfynnu bod lleoliad y digwyddiad yn blaenoriaeth. Beth bynnag yw ei rhesymeg gofynwch i nhw i ysgrifennu hi lawr fel camau neu dilyniant. Dyma yw algorithmau.

Gallwch chi weld y tebygrwydd? Ydy’r grwpiau i gyd wedi dewis ble mae’r digwyddiad yn digwydd? Sut ydyn nhw mynd i cyrraidd yna? Pwy sydd yn cymryd rhan? Faint ydy hi’n costio? Beth ydy nhw mynd i yfed a bwyta? Sut fydd pobl yn gwybod amdani? Ayyb. Efallai mae patrymau yn dechrau datblygu. Fydd rhai o rhain yn gymwys i’r cynlluniau i gyd, fydd rhai dim ond yn gymwys i un neu dau.

(e.e sut bydden nhw yn cyrraidd yna. Does dim ots os mae nwh wedi trefnu noson rhieni.)

Yn y cam nesaf fydd angen ysgrifennu’r gwybodaeth fel siart yn gosod allan y gwybodaeth felly mae’n edrych yn degyg i hwn.

 

Ar ol i chi cwblhau’r gweithgaredd yma ewch dros y camau penodol.Esboniwch dyma yw’r fath o proses fydd angen i fynd trwy cyn iddyn nhw dechrau trio ysgrifennu rhaglen cyfrifiadur- mae hyd yn oed datblygwyr meddalwedd top yn gwneud hyn.

Edrychwch ar y erthyglau arall ar y wefan hon i weld sut y gall y cysyniadau yma yn gallu cael ei defnyddio mewn gwesi eraill.

 

jen hughes

View my other posts

Leave a Reply

Your email address will not be published. Required fields are marked *