CS Deall grwpiau, sut i ddidoli a cystrawen (1)

Dyma cyfres o tasgau i dysgu plant y cysyniad o grwpiau, sut i ddidoli a cystrawen y fydd yn tanategu unrhyw gwaith codio ym mhellach. Mae hi hefyd yn rhoi cyfle i plant gweithio gyda ‘AC’, ‘DIM’, ‘NEU’ ac yn dod a nhw yn cyfarwydd gyda’r syniad o newidynnau ac enwi setiau.

 

Nod:

I ddigyblion dod yn cyfarwydd gyda cystrawen syml y gallai nhw defnyddio i ysgrifennu cod yn y pendraw.

 

Offer:

Fe fydd angen creu 9 ffon a 9 cylch (fel y welir yn y llun) fydd angen 3 ffon mawr hir, 3 ffon maint canolig a 3 ffon bach byr. Yn debyg fydd angen 3 cylch mawr, 3 cylch maint canolig a 3 cylch bach. Lliwiwch un o bob maint yn coch, un o bob maint yn du ac un o bob maint yn wyn. Fydd hefyd angen cylchoedd allan o rhaff (sydd wedi cysylltu gyda tap). Fe ddyle’r diamedr or cylchoedd fod yn hyrach na’r ffon fwyaf.

Nod:

Fydd y plant yn gallu:

  • Esbonio fod set yn grwp o bethau lle mae gan pob peth yn y grwp rhywbeth yn gyffredin.
  • Adnabod GRWPIAU.
  • Adnabod sut mae rhywbeth yn cael ei DIDOLI.
  • DIDOLI a GRWPIO yn seiliedig ar CYSTRAWEN syml.
  • DIDOLI a GRWPIO yn seiliedig ar GYDA, NEU, DIM,CYSTRAWEN
  • Darganfod yr un gwahanol yn y GRWP.

 

Yn cyfrifiadurol rydyn yn DIDOLI data mewn I GRWPIAU gan defnyddio CYSTRAWEN. Mae’r tair gyda’r gilydd yn bwysig. Ystyr didol yw I dysgu bod y pethau cywir yn mynd mewn ir grwp cywir. (e.e mewn llyfrgell mae’r llyfrau I gyd mewn trefn y wyddor enwau’r awdur). Ystyr grwpiau yw rhoi pethau cyffredin gyda’r gilydd er mwyn iddyn nwh gwenud synwyr. (rhoi llyfrau teithio, cyfeirlyfrau a llyfrau ffuglen mewn I grwpiau.) rydyn yn defnyddio cystrawen I wenud yn siwr bod pethau yn cael ei didoli yn gywir.

Yn yr tasg yma rydym yn defnyddio’r ffonau ar cylchoedd i dangos sut mae pethau yn cael ei didoli mewn i grwpiau. Mae gan y ffonau ar cylchoed 3 eiddo i helpu didoli a grwpio. Maint, lliw a siap. Mae’r cylchoedd rhaff yn cael ei defnyddio i cynrychioli ffiniau o GRWPIAU- “Mae pob peth o fewn y cylchoedd haff yn FAWR”. Dyma ffordd gweladwy o grwpio pethau gyda’i gilydd. Anawsterau y tasg yma yw i arwyio grwpiau syml i didoli grwpiau uwch. ‘Diagram Venn’ a mewnosod didoli paramedrau.

Mae’r tasgau yn y rhan yma wedi ei gwahannu mewn i 3 catogariau: dywedwch wrthai, dangoswch i mi a “troubleshoot”.

Tasgau “dywedwch wrthai” yw pan yr ydych yn gosod y grwpiau i fyny ac yn gofyn ir plant yw esbonio (yn dibynnu a ei lefel) beth ywr grwp a sut mae’r grwp wedi ei didoli ac meddwl am enw i’r grwp.

Tasgau “dangoswch i me” yw pan yr ydych yn rhoi’r cystrawen ir plant ac mae rhaid i nhw gosod y gwrthrychau mewn i grwpiau.

“troubleshooting” yw estyniad or tasg dywedwch wrthai lle mae’r grwpiau wedi cael ei osod ond rydych yn rhoi 1 gwrthrych yn y lle anghywir a mae rhaid i’r plant adnabod hyn.

Pam mae CYSTRAWEN yn bwysig, bwysig!!!

 

Yn y camau cyntaf yma dydy ni ddim yn disgwyl ir plant gallu defnyddio’r cystrawen “codio” yn gywir. Ond rydym ni eisiau dysgu cysyniad rhesymol ac i dod yn gyfarwydd gyda patrymmau cystrawen y fyddwn nhw yn ei defnyddio pan ddaw’r amser i ysgrifennu code. Yn fwyaf bwysig ddyle ni ddim dysgu nhw cystrawen anghywir ar ddamwain!

Fydd cyfrifiadur, periant neu defies ddim ond yn gwenud beth yr ydych wedi gofyn iddyn nhw. Fel plant bach! Mae hyn yn golygu os mae’r cystrawed yn anghywir fe all y canlyniad fod yn anghywir hefyd. E.e dychmygwch fod eich plentyn yn bwyta cinio ac rydych yn dweud y geiriau hun:

“Fe cewch chi gael pwdin os  yr ydych yn bwyta moron I GYD a pys”

Mae’r plentyn wedyn yn bwyta’r moron i gyd ond dim ond dau pys. Mae hyn yn gywir ir gair. Ma’e plentyn wedi bwyta digon i wneud y brawddeg yn lluosog. Felly mae angen newid y brawddeg i hyn:

“Fe cewch chi pwdin os yr ydych yn bwyta’r moron I GYD ar pys I GYD.”

Mae hyn yn golygu mae rhaid ir plentyn bwyta pob dim er mwyn cael pwdin. Dyma yw’r cystrawen cywir os yr ydych eisiau’r plentyn bwyta popeth. (yn anffodus dyma pryd yr ychych wedi anghofio ychwanegi brocoli i’r cystrawed a mae rhaid dechrau’r proses eto)

Cyflwyniad

Yn gyntaf mae angen sicrhau mae plentyn yn deall beth grwp. Ar y cam yma mae hi’n digon i blentyn deall bod grwp yn set o bethau lle mae bod pob peth neu person yn y grwp gyda rhwybeth yn gyffedin yw gilydd.

Esbonio yn gyntaf fod y pobl yn yr ystafell yn rhan o dosbarth 3. Fe gallwch chwaare gemau cyflym e.e gwneud grwpiau o marched a bechgyn. Neu gwneud grwpiau o pobl gyda llygaid glas a grwp o pobl gyda llygaid brown ayyb.

Defnyddio ffonau a cylchoedd- lefel dechreuwr

Ar lefel dechreuwr fe allwch chi dechrau gyda tasg dywedwch wrthai. Fe allwch chi dechrau gyda’r ffonau a grwpio nhw mewn trefn ei maint neu lliw. Fel y welch chi.

 

Fe allwch chi trio hyn gyda gwahanol amrywiaeth. Os yr ydych yn hapus gyda’r cysyniad fe allwch dechrau ychwanegu’r cylchoedd i’r grwpiau.

Or yr ydych yn hapus ei bod nhw yn deal y cysyniad fe allwch chi symud ymlaen i’r rhan dangoswch fi or gweithgaredd.

Y troy ma gofynwch i’r plentyn i creu grwp ei hun yn seiliedig ar y cystrawed yr ychych wedi rhoi iddyn nhw. E.e a allwch chi creu set gyda’r darnau coch i gyd?

Eto, fe allwch chi amrywio hyn rhwng maint a siap a lliw.

Fe fydd y rhan nesaf yn cymlethu’r cystrawen trwy defnyddio “DIM” yn y brawddeg e.e

“A gallwch chi dangos i fi y darnau sydd DDIM yn fach?”

Fe allwch ymarfer hyn tro ar ol tro yn arywio’r siap ar lliw.

Fe fyddwn ni yn defnyddio’r dau gair ‘GYDA’ a ‘NEU’ yn y cystrawen nesaf. Fydd y dau gair yma yn lleihau ac yn cynyddu’r cwmpas y cystrawen yn y drefn hon. Pan fydd y cystrawen cywir o ‘GYDA’ yn cael ei defnyddio. Fydd rhaid i’r gwrthrych bodloni i cael ei derbyn mewn i set:

“Allwch chi dangos i mi yr darnau i gyd sydd yn fach AC yn coch?”

(Fydd rhaid i chi siwr o fod pwysleisio chi’n son am y DDAU cystrawen ei mwyn iddyn nhw cael ei defnyddio. Fel arall byddwch yn pennu fynnu gyda’r un sefyllfa ar pys a moron uchod!)

Fe all hyn hefyd cael ei cymysgu’r gyda DIM:

“Allwch chi dangos i mi y darnau sydd yn cylchoedd ac sydd DDIM YN fawr?

Mae’r datganiad NEU yn defnyddiol gan ei fod yn gadael i ni cynyddu’r cwmpas y nein grwpiau heb gadael popeth mewn:

“gallwch chi dangos i mi y darnau i gyd sydd yn siap cylch NEU sydd yn goch?”

Mae hyn yn cwbllhau’r gorchmynion i gyd rydyn ni eisiau defnyddio yn y tasgau dechreuwr yma.’ Gyda gorchmynion yma mae hin bosib i creu grwpiau sy’n amrywio o fod yn cyffredinol iawn (gyda cystrawen eang fel y gwrthrychau coch I GYD) i achosion unigol penodol. (e.e gwrthrychau uniogol sydd yn coch AC sydd yn fach AC sydd yn siap ffon.) gan cymysgu ac cyfateb y gorchmynion mae hi’n bosib i eithrio/cynnwys unryw rhifau newidynnau.

Y peth olaf mae rhaid i ni cynnwys ary lefel hon yw “troubleshooting” neu darganfod yr un gwahanol.Un or pethau mwyaf pwysig amdano codio yw i deall pam mae rhwybeth ddim yn gweithio neu pam mae rhywbeth ddim yn ymddwyn yn anghywir. Ma’e tasg nesaf yn canolbwyntio ar cael plant i esbonio pam nad yw rhywbeth yn perthyn yn y grwp. Yn ail y deall pam nad yw’r peth yna yn perthyn i’r grwp. Mae hi’n gorfodu’r plant i meddwl am y cystrawen sy’n llywodraethu’r grwp.

Yn gyntaf, gosod grwp mewn dolen yn defnyddio unrhyw datganiad cystrawen, wedyn adio gwrthrych arall sy’n cwmpasu gan y datganiad. E.e rhoi’r gwrthrychau canolig i gyd mewn grwp wedyn adio’r gwrthrych mwyaf. Gofynwch i’r plant i darganfod yr un gwahanol ac esbonio pam mae hi’n gwahanol ir gweddyll.

Gall y plant mwyaf galluog archwilio’r datganiad “cyfatebol” e.e Grwp o bethau sydd ddim yn coch nac yn ddu. A oes ffordd arall o dweud hun? Neu grwp o bethau sydd ddim yn fach nac yn canolig nac yn siap cylch ayyb.

 

jen hughes

View my other posts

Leave a Reply

Your email address will not be published. Required fields are marked *