CA2 ‘Python’ Gwers 3: Sgwrsio gyda chyfrifiadur!

Trosolwg:

Dyma’r drydedd wers i ddysgu dysgwyr sut i ddefnyddio Python. Mewn parau neu trioedd, byddant yn ysgrifennu rhaglen ryngweithiol tra’n dysgu mwy am iaith a chystrawen rhaglennu cyfrifiadurol.

 

Nodau:

 

Gweithgaredd:

Rhan1 – Awgrymwn eich bod yn defnyddio bwrdd gwyn rhyngweithiol i esbonio than gyntaf y wers i’r dysgwyr. Gallwch naill esbonio’r rhan gynatf iddynt yn gyfan cyn ofyn iddynt i ddilyn yr hyn wnaethoch chi neu fe allech fynd cam-wrth-gam gyda’ch gilydd gyda’r dysgwyr yn efelychu’r hyn rydych chi’n ei wneud ar y bwrdd gwyn ar eu cufrifiaduron nhw.

Esboniwch y bydd angen iddynt gychwyn IDLE ar eu cyfrifiaduron h.y. byddant yn llunio rhaglen y tu mewn i ‘gragen’ Python.

Mae'r 'gragen' ar y dde a'r Ffeil ar y chwith.

Mae’r ‘gragen’ ar y dde a’r Ffeil ar y chwith.

Gofynnwch iddynt os ydynt yn cofio sut i gychwyn rhaglen IDLE. Os ydy’r gwaith blaenorol dal i fod yna, dywedwch wrthynt i’w anwybyddu.

Cyfeiriwch at y bar offer (toolbar) ar dop y ffenestr. Y tab cyntaf ar y chwith yw IDLE. Yr ail dab yw FILE. Bydd angen iddynt glicio FILE a dewis New File. Fe fydd hyn yn agor ffenestr newydd o flaen yr hen ffenstr yn y cefndir. Dywedwch wrthynt ei fod yn bosib i ddenfddio’r ffenestr gyntaf i dreialu syniadau ar gyfer yr ail ffenestr (newydd). Fe wnawn ni drafod hwn ymhellach nes law.

gofynnwch iddynt os ydynt yn gyfarwydd a’r symbol #. Efallai hoffech chi gyfeirio at Trydar a sut mae’r symbol yn cael ei ddefnyddio ar lafar erbyn hyn. Esboniwch iddynt bod y symbol yn cael ei ddefnyddio yn wahanol yn iaith Python. Yma, mae’r symbol stwnsh yn ddenfyddiol pan eich bod chi eisiau ysgrifennu sylwadau personol. Anywybyddir y symbol stwnsh ac unrhywbeth sy’n ei ddilyn gan y cyfrifiadur. Dyma esiamplau o sylwadau cyffredin:

#cofiwch y cromfachau

#benthycais y darn o god yma

#dyma’r doc o god sy’n dweud wrth y cymeriad i symud ymlaen

#mae hwn yn creu lwp

Felly, mae’n bosib defnyddio’r symbol stwnsh i guddio nodiadau oddi wrth y cyfrifiadur! Esboniwch fod hyn yn ddefnyddiol mewn sawl ffordd e.e. Os ydych yn chwilio am darn o god yn y dyfodol mae’n haws i gael hyd iddo os oes sylwad yn dangos lle mae e. Hefyd, po hiraf yw eich eich cod, y pwysicaf y mae sylwadau mynd i fod er mwyn cadw trac a threfn ar eich gwaith. Mae sylwadau hefyd yn gymorth i eraill sy’n debygol o weithio ar eich rhaglen.

Fe fydd y rhaglen hon yn gofyn i’r defnyddiwr beth yw ei (h)enw. Felly, y peth cyntaf sydd angen ei wneud yw enwi’r rhaglen newydd. Dyma rai esiamplau:

#EichEnw.py

#FyEnw.py

#DysguAmSymbolauStwnsh.py

#AilWersPython.py

#JeliAChwstard.py

Mae’n synhwyrol bod yr new yn disgrifio cynnwys/swyddogaeth y ffeil neu’r rhaglen. Mae’n arfer da i roi .py ar y diwedd am fod hyn yn dweud wrthom taw ffeil Python yw hi. Enw’n ffeil ni yw #EichEnw.py a gan fod symbol stwnsh o’i flaen mae’r enw yn ymddangos yn goch ac mae’r cyfrifiadur yn ei anwybyddu.

 

Rhan 2 –

Rhowch y canlunol i fyny ar y bwrdd gwyn. Gallwch nail eu teipio neu eu rhoi ar gyflwyniaf PowerPoint. Gofynnwch i’r dysgwyr i’w copio. Does dim angen esbonio ystyr y cyfarwyddiadau eto.

Screen Shot 2016-04-25 at 13.49.39#DyEnw.py

name=input(“Beth yw dy enw di?\n”)

print(“Shwmae,”,name)

 

Atgofiwch y disgyblion i beidio a rhoi bylchau rhwng y symbol. Ar ol iddynt orffen, gofynnwch iddynt arbe y ffeil drwy click ar FILE, dewis SAVE a theipio enw’r ffeil. Nawr fe yawn new fwynhau ffrwuth eu llafur!

 

Gofynnwch iddynt glicio RUN ar y ddewislen cyn dews RUN MODULE. Yn y cefndir, ar y graven. Fe ffylai’r geiriau “Beth yw dy new di?” wedi ymddangos. Gofynnwch i un o bob grip i ‘ateb’ gan deipio ei (h)enw o dan y cwestiwn cyn gwasgu dychwelyd (return) i wedl yr hyn sy’n digwydd!

Fe ddylai’r cyfrifiadur eu hateb gyda “Shwmae, (ei (h)new)”!Screen Shot 2016-04-26 at 13.12.21

 

Ewch nol i’r ffenestr IDLE a chliciwch ar RUN MODULE eto. Fe fydd y rhaglen yn aill-ddechrau gan adael i bob un plentyn gael tro. Atgofiwch y dysgwyr fe fydd rhaid iddynt creu ffeil newydd gydag enw (rhaid cofio defnyddio symbol stwnsh). Yna, bydd rhaid iddynt deipo’r cod eto AC arbed y rhaglen. Fe fydd yn ymddnagos yn y gragen ac nid yn IDLE.

Gweithgareddau ychwanegol:

  • Gallant arbrofi gyda chystrawenau eraill e.e.

#DoreDa.py

name=input(“Beth yw dy enw di?\n”)

print(“Bore da,”,name)Screen Shot 2016-04-26 at 13.22.18

 

 

 

 

 

Leave a Reply

Your email address will not be published. Required fields are marked *