Cyflwyno HTML – Pam mae wefannau yn edrych fel y mae?

Mae E.A.K. (Erase All Kittens) yn rhaglen diddorol iawn ar y we, syn dysgu plant sut i rhaglenni mewn HTML a CSS, gan annog nhw i hacio mewn i’r wahanol lefelau or gem i ddatrys y broblemau.

Mae’r plant yn chwarae fel y cymeriad Arca – creadur dirgel iawn sydd wedi cael ei alltudio ir rhan fwyaf hen or we. Ei dasg yw i achub y cathod bach or we cyn i rhywbeth difrifol digwydd iddyn nhw. I wneud hwn mae’n rhaid iddyn nhw adeiladu silfoedd i groesu ogofau, creu pyrth, newid lliw y awyr i galluogi weld angehfilod a lot mwy.

Mae pob cam yn cael ei gyflwyno fel sialens, a gan clicio ar y botymau EDIT, maent yn wahanu’s sgrin i ddangos y cod tu ol i bob lefel. Gan newid y cod tu ol ir wahanol lefelau, mae hwn yn galluogi Arca i cyrraedd y cathod bach, neu’r pyrth.

Erase All Kittens

yn gem bach hwyl, sydd wedi cael ei cyflwyno mewn ffordd sydd a apel i plant ysgolion gynradd. Maen yn rhoi ffordd hwyl a ymgysylltu i dysgu sut i defnyddio y pethau syml or cod HTML, er engrhaifft DIV’s, Headings a tagiau pwysig arall.

Mae ERASE ALL KITTENS am ddim i chwarae, ac yn ffynhonell agored. Mae yn cael ei pwysleisio fel Beta / Demo ar y funud efo’r crewyr yn annog adborth o athrawon ar sut i wneud yn well. Gall ffeindio’r gem at Erase All Kittens Rhowch gynnig arni efo’ch plant a gweld beth mae nhw’n ei feddwl, siwr o fod bydden nhw wrth eu boddau.

Achubwch y Cathod, Achubwch y Byd!

Darllenwch mwy Yma

illtudjones

View my other posts

Leave a Reply

Your email address will not be published. Required fields are marked *