Dyma’r cwestiwn mae athrawon wedi bod yn gofyn i mi. Mae hi’n llawer o hwyl ond beth ydy’r plant yn dysgu?
I dechrau mae gosod ‘MaKeyMaKey’ i fyny fel cylchedd syml, felly rydych yn dysgu electronics syml yn syth.
Mae ‘MaKeyMaKey’ yn cycylltiad rhwng ti ar cyfrifiadur, fe allwch ei alw yn ‘tangible user interface’ – mae hi’n rhoi ffyrdd cvorfforol o gwybodaeth digidol. Mae defnyddio ‘MakeyMakey’ yn helpu chi deall mwy am sut mae eich cyfrifiadur yn gweithio a mwy am it gives a physigwybodaeth cyfrifiadurol yn corfforol. Dyle hi ysbrydoli diddordeb creadigol gyda cyfrifiaduron ym mhellach na bwrdd allweddu.
Mewn dylunio a technoleg mae hi’n enghraifft o rheoli technoleg. Mae hyn wedi bod ar y cyriciwlwm am flynyddoedd. Wnes i darganfod erthygl 10 mynedd oed yn esbonio pam a sut y gall ysgolion chroesawu rheolau technegol ac mae’r teimlad yr un peth heddiw;
“Pam gwneud hi yn yr ysgol?”
“Oherwydd mae hi yna yn y byd tu fas. Os mae ysgol yna i paratoi pobol ifainc am ei bywydau fel oedolyn, fe ddyle addysg adlewyrchu y newidiadau yn ein cymdeithas.felly mae addysg technoleg yn ynwedig angen adlewyrchu y newidiadau o fewn technoleg, er mwyn i blant cael y profiadau addas.
Mae hi’n annog hunain datblygiad ac yn gwella sgiliau. Heb unrhyw ateb i unrhwy problem a rhoddwyd, mae gweithgareddau sy’n cael ei rheoli pob tro yn cynnwys plant mewn datrys problemau. Dysgu sut i defnyddio meddalwedd rheoli yn datblygu meddwl rhesymeg ac yn dysgu plant rhaglennu cyfrifiadurol i dechreuwyr.”
Fe allwch defnyddio ‘MakeyMakey’ i rheoli unrhyw rhaglen syml, sydd yn golygu fe allwch ysgrifennu rhaglen syml eich hun yn Scratch ac defnyddio gyda ‘MakeyMakey’. Mae na llawer o engreifftiau yma.
Mae gan ‘MaKeyMaKey’ llawer o cysylltiadau croes cyriciwlwm hefyd. Edrychwch ar ein post sut i gwneud gitar allan o cardfwrdd am syniad sy’n gallu cwmpasi project celf a chrefft, creu cerddoriaeth, chwarae cerddoriaeth mewn grwp, rhaglennu a electronig.
Os yr ydyn ni wedi argyhoeddi chi ac rydych eisiau cael tro, fe allwch prynnu ‘MakeyMakey’ o nifer siopiau ar-lein mae nhw tua £40 (ond edrychwch ar eBay hefyd) wedyn edrychwch ar ein tiwtorial dechrau gyflym.