Gwahanwch y plant mewn i grwpiau o tua 5 neu 6. Does dim angen fod yn union 5 neu 6. Rhwoch llawer o pecynnau cerdiau chwarae o flaen pob grwp a cymysgwch gyda’r gilydd. (yn well eto os yr ydyn nhw i gyd yn gwynebu i lawr.) y mwy o pecynnau o cerdiau yr anoddach ar hyrach fydd y tasg. Am 6 person yn y tim fydd angen tua 3 pecyn am wyth person fydd angen tua 4 pecyn ayyb.
Yr amcan yw i pob tim didoli’r cerdiau mewn i trefn llun neu rhif.
Amseri’r gweithgaredd.
Gwnewch y tasg yn fwy anodd ir plant trwy gwneud y tasg heb siarad.
Fe allwch hefyd ychwanegi’r rheol mae angen i pob person yn y grwp cael swydd.
Gadewch 2 finid cyn dechrau’r amser iddyn nhw cynllunio sut y fydden nhw yn gwenud hyn.
Fe allwch hefyd trio hyn gyda Lego yn gadael iddyn nhw penderfynnu pa categorïau mae nhw’n mynd i didoli nhw ynddo. Yn amlwg fydd pob tim angen pentwr o lego ond does dim angen nhw fod yr union yr un peth. Mae’r lego mawr yn wych am chwarae tu fas.
Fe all yr athrawes fynd o gwmpas y lego sydd wedi ei didoli i gyd sydd efo’r un ‘problem e.e darganfod un bric coch x8 bric smotiog, un bric ‘arbennig,’ tri bric melyn, ayyb. Amseri’r athrawes faint o amser mae hi’n cymryd i darganfod nhw. Pwy sydd efo’r system mwyaf effeithiol am storio a pham?