CS- Defnyddio BeeBot

BeeBot yw robot bach called sydd wedi ei creu am plant bach.mae hi’n ffordd prawf bwled o cyflwyno rhaglennu syml i blant yn y cyfnod sylfaen ac yn defnydd da am dysgu pwnciau arall ardraws y cwriciwlwm.

Sut mae BeeBot yn gweithio

Rydych yn rhoi mewn gorchmynion,gwasgu’r botwm ‘play’ a dyna ni. Mae’r gorchmynion yn cael ei storio yn ei cof ac yn rhedeg yn eu drefn mae nhw wedi ei gwasgu. Ar ol ir BeeBot rhedeg y cwrs mae’r mewnbwn dal yn ei cof, felly gwasgu mwy o gorchmynion ar ol yn adio ir gadwyn. Os oedd gyda ni gadwyn o gorchmynion fel; ymlaen, ymlaen. Wedyn ar ol rhedeg nhw mae’r BeeBot yn stopio ac rydyn ni’n gwasgu nol, nol wedyn fydd y BeeBot yn mynd ymlaen, ymlaen, nol,nol . I glirio’r cof gwasgwch y botwm ‘x’ pan mae’r BeeBot yn stopio. Mae’r botwm saib yn cael ei defnyddio i adio saib ir cod or BeeBot, nid I stopio’r BeeBot pan mae hi’n rhedeg. Mor belled yr unig ffordd I stopio’r BeeBot rhag rhedeg yng nhanol cod yw i troi e drosodd a troi e bant or switsh ar y gwaelod a troi e nol ymlaen eto.

Roeddwn yn ffindo hi’n defnyddiol i sticio darn o papur gyda llinell arnol i creu tabl ar y llawr. Mae hyn yn gadael i ni dechrau or dechrau pob tro ac gwneud i drysfa yn fwy cysan.

Drechrau defnyddio BeeBot

Nod:

  • I gallu defnyddio’r rheolaeth ar y BeeBot
  • Ysgrifennu rhaglen syml ir BeeBot gallu gyflawni tasg
  • Nodi a cywiro camgymeriadau a awgrymu sut mae’r camgymeriadau wedi codi
  • Recordio dilyniant o symudiadau sydd wedi ei gwneud gan y BeeBot

 

Gweithgareddau

 

Gad ir plant chwarae gyda’r BeeBot heb unrhyw cyfarwyddiadau a gweld beth sy’n digwydd. Mae Bot yn hawdd iawn i defnyddio ac rydyn yn awgrymu os yr ydych yn bwriadu defnyddio un gadewch i plant chwarae gyda hi yn gyntaf. Fydden nhw yn codi sut i defnyddio fe mewn cwpl o funudau ac ar ol hynny fe awwch llenwi unrhyw bylchau yn ei profiad efallai mae nhw wedi colli. Mae’r dull gweithdredu yma i botiau yn defnyddiol i feithrin yn gynnar- un or ffordd gorau i dysgu rhaglennu yw trwy arbrofi, ac fydd llawer o datblygwyr meddalwedd profiadol yn dweud mae nhw’n gwario llawer o amser yn ‘chwarae o gwmpas’. Arbrofi ac gwneud camgymeriadau (wedyn nodi nhw) yn nodweddion da o rhaglenwyr da.

 

Ysgrifennu rhaglen I lawr ac wedi mewnbynnu

Mae’r gweithgaredd yma am cael y plant i meddwl am beth mae nhw’n mewnbynnu cyn mae nhw’n rhoi’r gorchymyn i mewn ir BeeBot. Gan ddweud hynny mae chwarae hefyd yn bwysig, mae angen i blant deall trwy gwasgu botymau ar hap fydden nhw yn mynd yn rhwystredig ac yn diflasu gyda’r BeeBot.

Rhowch y BeeBot ar bwrdd, a gwnewch marc neu gosodwch rhyw fath o gwrthrych 60cm o flaen y bot. (fydd pob ‘cam’ mae’r BeeBot yn cymryd yn 15cm) gofynwch ir plant beth mae rhaid ir bot gwneud er mwyn cyrraid y maec. Ysgrifennwch ar bwrdd gwyn beth mae nhw’n dweud.

Fe allwch chi dewis ‘cod’ eich hun e.e fel awch defnyddio geiriau fel ‘ymlaen’, ‘ymlaen’ ‘ymlaen’ neu fe allwch gwneud hi’n fwy swyddogol trwy adio 3x ymlaen. Neu defnyddio arwyddau, fel yn yr engraifft isod.

bee-bot COMMANDS

Ar ol ir plant cael digon o gorchmynion i cyrraidd y safle, rhowch y gorchmynion i mewn ir BeeBot fel y mae nhw wedi ei ysgrifennu ar y bwrdd. Gwasgwch ‘Play’ i weld beth sy’n digwydd. Os mae nhw yn gwneud yn gywir symudwch ymlaen i tasgau mwy cymleth gyda llai o gorchmynion. Os mae nhw yn ei wneud yn anghywir ewch trwy’r cod gyda nhw, yn symud y BeeBot trwy pob cam tan mae nhw yn gweld y camgymeriad.

Ar ol iddyn nhw llwyddo gwneud hyn gyda oedolyn yn ysgrifennu hi i lawr, nesaf cae y plant i ysgrifennu lawr y gorchmynion ei hyn. Wedyn rhowch nhw i mewn ir BeeBot a gwasgwch ‘Play’ eto. Mae hyn yn wedyn yn cael y plant i dylunio a ysgrifennu cod ei hun. Ar ol iddyn nhw llwyddo gyda hyn newidwch y cod. Felly os mae nhw wedi bod yn defnyddio arwydddion cael nhw i defnyddio geiriau yn ei le. (ar un peth gwrthwyneb)

Fe allwch chi ofyn i nhw defnyddio lliwiau, mae hyn yn cam pwysig i deall fe all rhaglenwyr ysgrifennu codau yn ieithoedd gwahanol, trwy defnyddio pa bynag symolau a geiriau chi moen.

Gwyliwch y bot ac ysgrifennwch y cod I lawr

Mae’r tasg yma yn dilyn y tasg blaenorol. Mae’r gol yma yw i cael y plant i meddwl am y gorchmynion rhoddwyd ir BeeBot i wneud iddo ymddwyn fel y roedd e. rhowch gorchmynion I mewn ir BeeBot eich hun a cael y plant i gwylio o symud trwy’r rhaglen. Wedyn gofynwch ir plant i dweud pa gorchmynion mae nhw wedi rhoi iddo. Yn dibynnu ar ei oedran, dim ond tua 3 cam y gallen nhw cofio felly mae hi’n profiad da iddyn nhw ysgrifennu’r codiau i lawr wrth iddyn nhw gwylio. Mae ‘Decodio’ yn sgil defnyddiol i dysgu ac un mae rhaglenwyr yn defnyddio llawer.

 

Rhaglenwych eich BeeBot trwy drysfa.

Tynnwch lun o drysfa syml ar darn o papur neu yn well ar iard chwarae gyda sialc. Gwnewch yn siwr fod y ‘camau’ yn 15 cm. (mae hyn yn bwysig iawn i athrawon sy’n dysgu defnyddio BeeBot, i gael ffon sydd wedi marcio mas hyd 15 cm, felly fe allwch dylunio tracs a drysfeidd yn haws!) os yr ydych yn gwneud eich drysfa felly mae llawer o pwyntiau mynediad ynddo, fe allwch cael llawer o BeeBots ar yr un pryd ar llawer o traciau. E.e A I B, coch i glas, ayyb. Mae plant yn dwli pan mae’r BeeBot yn crashio mewn yw gilydd a wedyn trafod pwy sydd yn mynd o gwmpas pwy.

Mae hi’n werth cysylltu’r drysfa gyda pa bynag thema yr ydych yn gweithio arno. E.e fe all fod yr hygan fach goch yn edrych am ty ei mam-gu neu mor-ladron yn edrych am trysor ayyb. Mae’r BeeBot yn robot called iawn ac os yr ydych yn defnyddio glud ysgol neu ‘pritstick’ fe allwch addurno’r BeeBot gyda darnau o defnydd neu papur a tissue a fydd yn glanhau’n hawdd gyda dwr a llien ond paid rhoi y BeeBot cyfan mewn dwr.

 

jen hughes

View my other posts

Leave a Reply

Your email address will not be published. Required fields are marked *