CS Cyflwyno algorithmau 3: ‘AC’

Cyn i chi dechrau ar y tudalen hon wyt ti wedi edrych ar y tudalennau arall cyflwyno algorithmau? ‘OS’ a ‘YNA’ , cylfwyno algorithmau ‘DIM’

 

Nod

 

Rydyn yn cymryd hi’n ganiataol nawr fod y plant yn gyfarwydd gyda’r cystrawen “os yw hyn… wedyn hyn” ac “os nad yw hyn… wedyn ddim hyn.” Mae’r cysyniad nesaf yn bwysig yw i deall fod weithiau rydyn ni eisiau pennodi mwy nag un amod (amrywiol) i arddangos er mwyn cadarnhau trydydd canlyniad. Mewn geiriau arall “Os mae hyn AC hyn, wedyn hyn.”

 

Gweithgaredd

 

Redden ni wedi dechrau trwy defnyddio “os yr wyt ti’n gwisgo ffedog AC yn rhoi’r papur newydd ar y bwrdd, wedyn fe allwch chi peintio.” Mae nhw wedyn wedi deall y cystrawen a allen nhw mynd ati i peintio.

 

Rydyn ni wedi siarad llawer am profiadau dyddiol yn defnyddio rhesymeg e.e

 

“Os yr ydych yn bwyta eich cinio I gyd AC bwyta’r pwdin wedyn cewch chi cael losin.”

 

“Os yr ydych yn gwisgo eich dillad nos AC yn mynd ir gwely wedyn cewch chi stori. Ayyb.

 

Yn fwy diddorol siaradodd ni gyda plant 5 oed amdano’r enfys gan ei fod wedi dysgu yn ddiweddar sut mae nhw yn cael ei creu. Fel canlyniad fe cawson ni…

 

“Os mae haul AC glaw, wedyn mae enfys”.

 

Fe ddefnyddiodd ni’r symbol V (prif lambda) yn ben ei weired. Mae’r symbol yma yn cael ei defnyddio yn aml iawn i dysgu mathamateg a gwersi rhaglen a fydd plant yn dod ar draws hyn eto pan mae nhw’n gwneud set theori. Mae’r opswn i defnyddio dot, sydd hefyd yn cael ei defnydddio mewn gwersi rhaglennu i cynrychioli ‘ac’. Ond yn mathamateg mae hi hefyd yn cael ei defnyddio i lluosi neu fel pwynt degol felly gall defnyddio hyn cymlethu’r tasg- felly dydy ni ddim yn defnyddio hun! Rydyn ni hefyd eisiau osgoi’r symbol + sydd yn cael ei defnyddio mewn rhai rhaglennu ieithoedd. Mae plant hefyd yn defnyddio + yn mathamateg sy’n cynrychioli adio, sydd yn golygu rhywbeth gwahanol i “ac”. Pan rydyn yn rhaglennu neu rhesymu “ac” dydy hyn ddim yn golygu rydyn yn adio dau peth at ei gilydd, yn lle mae dau peth ar wahan ar y un pryd. Gwahaniaeth bychan ond un sy’n bwysig.

 

Gyda llaw, yn y canol or gweithgaredd yma fe all y plant cyflwyno mwy nag un amod e.e “Os yr ydych yn gwisgo eich dillad nos ac dydych chi ddim yn glanhau eich danedd a mynd ir gwely ni cewch chi cael stori.” Mewn rhai achosion roedden nhw wedi gor weithio’r rhesymeg ond roedd hi wedi dangos fod y plant wedi dechrau deall ac yn meddwl yn creadigol.

jen hughes

View my other posts

Leave a Reply

Your email address will not be published. Required fields are marked *